Gwneud cais am Ysgoloriaeth a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth
Mae Arholiadau Ysgoloriaethau a Gwobrau Teilyngdod yn arholiadau dewisol ar gyfer myfyrwyr sy'n gwneud cais am gynllun gradd israddedig ym mhrifysgol Aberystwyth. Rhaid i chi fod yn ymgeisydd israddedig i fod yn gymwys i sefyll yr arholiadau.
Cynhelir yr arholiadau ar ddydd Mawrth, 3 Chwefror 2026 yn eich ysgol/coleg. Sicrhewch eich bod wedi cwblhau’r rhestr isod cyn cyflwyno eich cais;
Rhestr Wirio Cais Arholiadau Ysgoloriaeth;
- Mae’n hanfodol eich bod wedi cael caniatâd gan eich Swyddog Arholiadau cyn cyflwyno cais. Bydd angen eu henw a'u cyfeiriad e-bost wrth gyflwyno’r cais.
- Bydd raid i chi gwblhau'r cais mewn un sesiwn - ni fydd yn bosib i chi ei gadw a dychwelyd ato.
- Byddwch angen eich Rhif Cyfeirnod Personol UCAS (10 digid) i gael mynediad i'r system ar-lein.
Rhaid cyflwyno ffurflen gais erbyn 12pm, dydd Gwener 23 Ionawr 2026.
Os hoffech wneud newidiadau i’ch cais neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bost.
Noder: Oherwydd natur y prosesau dethol, sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol, Nyrsio Mifeddygol, a Nyrsio yn gymwys i ymgeisio ar gyfer ysgoloriaethau a gwobrau teilyngdod Prifysgol Aberystwyth.
Tîm Ysgoloriaethau, Prifysgol Aberystwyth, Adeilad Cledwyn, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DD
Ffôn: 01970 622065 Ebost: ysgoloriaethau@aber.ac.uk
